Gwasanaeth ymchwilio archifau

Gadewch inni eich helpu gyda’ch ymchwil

Gallwn roi gwybodaeth i chi am y cofnodion a’r ffynonellau eraill rydym yn eu cadw a sut y gellir eu defnyddio ar gyfer ymchwil, ac mae’r wybodaeth hon am ddim. I gael chwiliadau manwl o’n catalogau byddwn yn codi ffi ymchwil.

Defnyddiwch y ffurflen gais i roi manylion clir o’ch gofynion ymchwil.

Chwiliadau penodol e.e. byddai chwiliad am gofnodion mewn cofrestri plwyfol neu wybodaeth o’r cyfrifiad yn eithaf syml. Byddai chwiliadau mwy manwl er enghraifft gwirio cofnodion wyrcws yn bosibl ond byddai angen rhagor o amser i wneud hyn. Ni allwn dderbyn ceisiadau cyffredinol megis twf a datblygiad tref. Mae Rheolwr yr Archifau yn cadw’r hawl i wrthod chwiliad, neu i osod amser penodol ar yr amser y gallwn ei dreulio arno.

Bydd angen talu’r ffi ymchwilio ar ol i’r gwaith ymchwilio gael ei wneud

Bydd rhad talu’r ffi ymchwilio hyd yn oed os na fydd y gwaith ymchwilio yn dod o hyd i unrhyw beth

Costau ychwilio £20.00 am hanner awr (am hyd at ddwy awr)

Rydym yn derbyn sieciau’n daladwy i Gyngor Sir Powys ac wedi’i dynnu o fanc gyda changen yn y DG. Neu gallwch dalu ar-lein, gan ddefnyddio cerdyn debyd neu visa, trwy ein cyfleuster talu ar-lein.

Faint o amser fydd hyn yn ei gymryd?

Unwaith i ni dderbyn eich ffurflen gais ein nod yw ateb pob ymholiad o fewn pedair wythnos, ond weithiau oherwydd llwyth gwaith bydd ychydig o oedi.

Fel arfer, gallwn wneud ymchwiliadau cyflym (un cofnod yn unig mewn cofrestr plwyf neu ffurflen gyfrifiad benodol) o fewn hanner awr am £20.00 (yn cynnwys TAW).

Gofynnir am daliad ar ôl cwblhau’r ymchwil ac anfonir yr anfoneb atoch syth ar ôl inni dderbyn copi o’ch derbynneb o’r We, neu siec.

Fe wnawn gadarnhau eich cais dros e-bost. Os na fyddwch wedi clywed gennym o fewn 5 diwrnod gwaith, rhowch alwad i ni.