Disgrifiad o’r rôl fel Gwirfoddolwyr Cefnogi Gweithgareddau a Digwyddiadau i Oedolion – Llyfrgell Llandrindod
Fel Gwirfoddolwr Cefnogi Gweithgareddau a Digwyddiadau i Oedolion, byddwch yn cefnogi’r Swyddog Addysg a Mynediad (y Gaer)/ Tîm Curadurol (Amgueddfa Sir Faesyfed)/ Llyfrgellydd Cangen (Y Lanfa a llyfrgelloedd eraill) i ddarparu gweithgareddau a digwyddiadau i oedolion, ar-lein a wyneb yn wyneb.
Tasgau:
Gall eich rôl gynnwys rhai, neu bob un, o’r canlynol:
-
Cefnogi’r gwaith o drefnu, paratoi a chyflwyno gweithgareddau a digwyddiadau rheolaidd i oedolion megis sesiynau Gwau a Chlebran, clybiau llyfrau neu grwpiau ysgrifennu. Gall hyn hefyd gynnwys gweithio gydag oedolion ag anawsterau dysgu.
-
Cefnogi’r gwaith o gyflwyno digwyddiadau cymunedol untro i oedolion, naill ai’n fewnol neu oddi ar y safle, (e.e. digwyddiad agor arddangosfa.)
-
Cynorthwyo gyda gosod ystafelloedd (e.e, symud byrddau a chadeiriau, paratoi lluniaeth, ac ati) a chlirio ar ôl digwyddiad/gweithgaredd.
-
Cyfarfod a chyfarch ymwelwyr/gwesteion/cyfranogwyr gweithgaredd.
-
Stiwardio digwyddiadau mwy a darparu presenoldeb diogelwch mewn lleoliadau allweddol o amgylch y safle.
-
Tynnu lluniau a derbyn ffurflenni caniatâd gan ymwelwyr/gwesteion/cyfranogwyr gweithgaredd.
-
Helpu i fonitro ansawdd gweithgareddau a digwyddiadau cymunedol i oedolion trwy ymgysylltu â’r cyhoedd a ffurflenni adborth.
-
Ymgymryd ag unrhyw dasgau sy’n ymwneud â dysgu oedolion a mynediad y gall y Swyddog Addysg a Mynediad/ Tîm Curadurol/ Llyfrgellydd Cangen ofyn yn rhesymol amdanynt.
Nodweddion:
-
Dull cyfeillgar a chroesawgar gyda sgiliau pobl rhagorol.
-
Sgiliau trefnu da.
-
Hyblygrwydd a dibynadwyedd.
Mae angen tystysgrif DBS manylach ar gyfer pob gwirfoddolwr yn y rôl hon.
Hyfforddiant:
Darperir hyfforddiant gan aelod priodol o staff. Bydd angen i chi hefyd gwblhau Hyfforddiant Iechyd a Diogelwch Cyngor Sir Powys gydag Ymwybyddiaeth Tân; Codi a Chario a Seiberddiogelwch a GDPR.
Ymrwymiad Amser:
Mae gweithgareddau rheolaidd a digwyddiadau untro yn cael eu cynnal trwy gydol yr wythnos, gyda rhai yn gynnar gyda’r nos ac ar benwythnosau, gan ddibynnu ar y lleoliad. Mae sesiynau gwirfoddoli ynpara am tua 2-6 awr.
Oriau Agor
The Gwalia
Ffordd Ieithon
Llandrindod
Powys
LD1 6AA