Disgrifiad o’r Rôl fel Gwirfoddolwyr Cefnogi Gweithgareddau a Digwyddiadau i Oedolion – Llyfrgell y Drenewydd

Fel Gwirfoddolwr Cefnogi Gweithgareddau a Digwyddiadau i Oedolion, byddwch yn cefnogi’r Swyddog Addysg a Mynediad (y Gaer)/ Tîm Curadurol (Amgueddfa Sir Faesyfed)/ Llyfrgellydd Cangen (Y Lanfa a llyfrgelloedd eraill) i ddarparu gweithgareddau a digwyddiadau i oedolion, ar-lein a wyneb yn wyneb.

Tasgau:

Gall eich rôl gynnwys rhai, neu bob un, o’r canlynol:

  • Cefnogi’r gwaith o drefnu, paratoi a chyflwyno gweithgareddau a digwyddiadau rheolaidd i oedolion megis sesiynau Gwau a Chlebran, clybiau llyfrau neu grwpiau ysgrifennu. Gall hyn hefyd gynnwys gweithio gydag oedolion ag anawsterau dysgu.
  • Cefnogi’r gwaith o gyflwyno digwyddiadau cymunedol untro i oedolion, naill ai’n fewnol neu oddi ar y safle, (e.e. digwyddiad agor arddangosfa.)
  • Cynorthwyo gyda gosod ystafelloedd (e.e, symud byrddau a chadeiriau, paratoi lluniaeth, ac ati) a chlirio ar ôl digwyddiad/gweithgaredd.
  • Cyfarfod a chyfarch ymwelwyr/gwesteion/cyfranogwyr gweithgaredd.
  • Stiwardio digwyddiadau mwy a darparu presenoldeb diogelwch mewn lleoliadau allweddol o amgylch y safle.
  • Tynnu lluniau a derbyn ffurflenni caniatâd gan ymwelwyr/gwesteion/cyfranogwyr gweithgaredd.
  • Helpu i fonitro ansawdd gweithgareddau a digwyddiadau cymunedol i oedolion trwy ymgysylltu â’r cyhoedd a ffurflenni adborth.
  • Ymgymryd ag unrhyw dasgau sy’n ymwneud â dysgu oedolion a mynediad y gall y Swyddog Addysg a Mynediad/ Tîm Curadurol/ Llyfrgellydd Cangen ofyn yn rhesymol amdanynt.

Nodweddion:

  • Dull cyfeillgar a chroesawgar gyda sgiliau pobl rhagorol.
  • Sgiliau trefnu da.
  • Hyblygrwydd a dibynadwyedd.

Mae angen tystysgrif DBS manylach ar gyfer pob gwirfoddolwr yn y rôl hon.

Hyfforddiant:

Darperir hyfforddiant gan aelod priodol o staff. Bydd angen i chi hefyd gwblhau Hyfforddiant Iechyd a Diogelwch Cyngor Sir Powys gydag Ymwybyddiaeth Tân; Codi a Chario a Seiberddiogelwch a GDPR.

Ymrwymiad Amser:

Mae gweithgareddau rheolaidd a digwyddiadau untro yn cael eu cynnal trwy gydol yr wythnos, gyda rhai yn gynnar gyda’r nos ac ar benwythnosau, gan ddibynnu ar y lleoliad. Mae sesiynau gwirfoddoli ynpara am tua 2-6 awr.

Oriau Agor

dydd Llun
09:00 – 17:00
dydd Mawrth
09:00 – 18:00
dydd Mercher
Closed
dydd Iau
09:00 – 17:00
dydd Gwener
08:00 – 16:00
dydd Sadwrn
09:30 – 13:00
dydd Sul
Closed
Newtown Library
Park Lane
Newtown
Powys
SY16 1EJ