Disgrifiad o’r rôl fel Gwirfoddolwr Addysg a Gweithgareddau i Blant – Llyfrgell y Llandrindod
Fel Gwirfoddolwr Addysg a Gweithgareddau i Blant, byddwch yn cefnogi’r Swyddog Addysg a Mynediad (y Gaer)/ Tîm Curadurol (Amgueddfa Sir Faesyfed)/ Llyfrgellydd Cangen (Y Lanfa a llyfrgelloedd eraill) i ddarparu gweithdai/gweithgareddau diddorol ar gyfer partïon ysgol a/neu digwyddiadau/gweithgareddau untro, rheolaidd i’r teulu yn y gymuned.
Tasgau:
Gall eich rôl gynnwys rhai, neu bob un, o’r canlynol:
- Cefnogi’r gwaith o baratoi a chyflwyno gweithgareddau dysgu ffurfiol ar gyfer grwpiau ysgol. Gall hyn hefyd gynnwys gweithio gyda grwpiau ieuenctid ac oedolion ag anawsterau dysgu.
- Cefnogi’r gwaith o gyflwyno digwyddiadau i’r teulu yn y gymuned.
- Ymgymryd â thasgau ymchwil i helpu gyda dylunio gweithgareddau crefft a pharatoi eitemau arddangos.
- Cynorthwyo gyda’r gwaith o osod a thynnu adnoddau ar ôl digwyddiad/gweithgaredd.
- Croesawu a chynorthwyo gyda chofrestru cyfranogwyr mewn gweithgareddau/digwyddiadau
- Arddangos gweithgareddau unigol a goruchwylio grwpiau bach o blant.
- Tynnu lluniau a derbyn ffurflenni caniatâd gan ymwelwyr/gwesteion/cyfranogwyr gweithgaredd.
- Helpu i fonitro ansawdd addysg a gweithgareddau i blant trwy ymgysylltu â’r cyhoedd a ffurflenni adborth.
- Ymgymryd ag unrhyw dasgau sy’n ymwneud â dysgu i blant a mynediad yn unol â chais rhesymol y Swyddog Addysg a Mynediad/ Tîm Curadurol/ Llyfrgellydd Cangen.
Nodweddion:
- Dull cyfeillgar a chroesawgar gyda sgiliau pobl rhagorol.
- Hyblygrwydd a chreadigrwydd.
- Byddai profiad blaenorol o addysgu neu weithio gyda phlant o fantais.
- Mae angen tystysgrif DBS manylach ar gyfer y rôl hon.
Hyfforddiant:
Darperir hyfforddiant gan y Swyddog Addysg a Mynediad/ Tîm Curadurol/ Llyfrgellydd Cangen. Bydd angen i chi hefyd gwblhau cyrsiau hyfforddi ar-lein Cyngor Sir Powys mewn Iechyd a Diogelwch gydag Ymwybyddiaeth Tân; Codi a Chario; Diogelu a Seiberddiogelwch a GDPR.
Ymrwymiad Amser:
Ar gyfer ymweliad ysgol (lle bo’n berthnasol), yn ôl yr angen, gan ddibynnu ar y math o drefniant. Gellircynnal digwyddiadau/gweithgareddau cymunedol rheolaidd (e.e. Amser Stori i blant bach neu Glwb Lego ar ôl ysgol) yn ystod y dydd, yn yr wythnos neu ar benwythnosau. Mae digwyddiadau/gweithgareddau untro fel arfer yn digwydd yn ystod y dydd yn yr wythnos ac ar benwythnosau yn ystod tymor yr ysgol a’r gwyliau. Mae sesiynau gwirfoddoli ynpara tua 1-6 awr, gan ddibynnu ar y digwyddiad/gweithgaredd.
Oriau Agor
The Gwalia
Ffordd Ieithon
Llandrindod
Powys
LD1 6AA