Iechyd yr Amgylchedd a Gwasanaethau Brys

Gwybodaeth benodol am iechyd yr amgylchedd a gwasanaethau brys ar gyfer digwyddiadau ym Mhowys, gan Gyngor Sir Powys.

Gall tîm Iechyd yr Amgylchedd Cyngor Sir Powys gynnig cyngor arbenigol ar lawer o faterion yn ymwneud â digwyddiadau megis lefelau sŵn diogel, gofynion ar gyfer y rhai sy’n darparu arlwyo (boed yn hunan-redeg neu dan gontract) safonau masnach, glanhau safleoedd a chyflenwad toiledau a dŵr.

Gallwch gysylltu â thîm Diogelu’r Cyhoedd am gyngor:

E-bost

Ffôn: 01597 827467

Gwasanaethau Brys

Mae angen i chi roi gwybod i’ch gwasanaethau argyfwng lleol am eich digwyddiad ymhell ymlaen llaw. Y rhain yw’r Heddlu, Gwasanaethau Ambiwlans a Thân.

Mae angen i’r gwasanaethau brys asesu sut, os o gwbl, y bydd eich digwyddiad yn effeithio ar eu gweithgareddau arferol. Efallai y byddant hefyd yn gallu cynnig cyngor a byddant yn esbonio pa gymorth y gallant ei roi ac na allant ei roi.

Bydd angen i chi hefyd hysbysu Gwylwyr y Glannau EF os yw eich digwyddiad ar lan y môr / afonydd. .