Hygyrchedd

Gwybodaeth gyffredinol am hygyrchedd a’r ddeddf cydraddoldebau.

Ystyriwch fynediad ar ddechrau creu eich digwyddiad a’i integreiddio ar bob cam o’r cynllunio a’r cyflwyno. Weithiau mae’n cymryd camau bach yn unig i wneud gwelliant mawr i fynediad.

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn symleiddio ac yn cryfhau’r gyfraith mewn perthynas â gwahaniaethu. Mae’n nodi naw nodwedd warchodedig, y mae’n rhaid eu diogelu i sicrhau triniaeth gyfartal. Dyma’r nodweddion hyn:

  • oed
  • anabledd
  • priodas a phartneriaeth sifil
  • ailbennu rhywedd
  • beichiogrwydd a mamolaeth
  • hil – mae hyn yn cynnwys tarddiad ethnig neu genedlaethol, lliw a chenedligrwydd
  • crefydd neu gred
  • rhyw
  • cyfeiriadedd rhywiol

 

Mae canllawiau i fusnesau ac elusennau / sefydliadau gwirfoddol i helpu pobl i ddeall y gyfraith a’u cyfrifoldebau.