Caniatâd Safle a Pharciau Cenedlaethol

Gwybodaeth benodol am ganiatâd safle a threfnu digwyddiadau mewn Parciau Cenedlaethol ym Mhowys, gan Gyngor Sir Powys.

Oni bai eich bod chi neu’ch sefydliad yn berchen ar y safle neu’r lleoliad yr ydych yn bwriadu ei ddefnyddio, bydd angen i chi gael caniatâd y perchennog/sefydliad sy’n gyfrifol am reoli’r safle a bydd angen i chi gytuno ar delerau defnydd clir.

Cytuno’n ysgrifenedig:

  • yr union leoliad a/neu ofod awyr agored
  • y dyddiadau y mae gennych fynediad iddynt (cofiwch ganiatáu amser ar gyfer gosod a thynnu i lawr)
  • faint fyddwch chi’n ei dalu, os o gwbl, i logi’r lleoliad ac o dan ba delerau.
  • unrhyw gostau adfer angenrheidiol am ddifrod y gallech ei achosi i’r safle neu’r lleoliad.
  • a fydd gennych allwedd i’r fynedfa neu fod angen mynd trwy ofalwr neu rywbeth tebyg
  • beth mae eich llogi yn ei gynnwys. Er enghraifft, a yw’n cynnwys y defnydd o leoedd parcio, tapiau dŵr ar y safle, trydan, y toiledau, y gegin, ystafelloedd newid ac ati? (Gwiriwch hefyd a yw’r amseroedd sydd ar gael yn cyfateb i’ch anghenion). Peidiwch â chymryd yn ganiataol bod eich llogi yn dod gyda’r holl gyfleusterau a welwch. Gall eu defnyddio gostio mwy.
  • a oes gennych fynediad i’r lleoliad/safle yn unig neu a fydd defnyddwyr eraill ar y safle.
  • a oes gan y lleoliad drwydded ac yswiriant presennol ac os felly, beth sydd wedi’i gynnwys.
  • A oes unrhyw gyfamodau ar y lleoliad/lle a allai atal rhai gweithgareddau.

Cynnal Digwyddiadau mewn Parciau Cenedlaethol

Os ydych eisiau cynnal digwyddiad o fewn Parciau Cenedlaethol Eryri neu Bannau Brecheiniog, cysylltwch ag Awdurdod y Parc Cenedlaethol. Yn yr un modd, mae’n arfer da siarad â swyddogion yn yr AHNE (Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol) a SoDdGA (Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig) am eich digwyddiad gan y gallent hefyd gael eu diogelu gan ddeddfwriaeth arbennig.