Y Lanfa – Amgueddfa Powysland

Dysgwch fwy am y gwaith pwysig y mae amgueddfeydd Powys yn eu gwneud i warchod treftadaeth ddiwylliannol gyfoethog y sir.

Mae Amgueddfa Powysland yn rhan o ‘Y Lanfa: Amgueddfa Powysland a Llyfrgell y Trallwng,’ Cliciwch yma i ganfod mwy am Lyfrgell Y Trallwng.

Lleolir yr Amgueddfa ar y llawr cyntaf yn bennaf, a gellir ei chyrraedd drwy ddefnyddio lifft neu risiau. Mae 2 le parcio i’r anabl o flaen yr adeilad.

Mae Amgueddfa Powysland yn darlunio archeoleg a hanes cymdeithasol sir Drefaldwyn.

Mae’r oriel gyntaf yn dangos sut mae bywyd yng nghanolbarth Cymru wedi newid gydag arddangosfeydd ar fasnachau, tafarndai, y rheilffordd, a Laura Ashley, yn ogystal ag arddangosfeydd am y rhyfeloedd ac Iwmyn (Yeomanry) Sir Drefaldwyn.

Mae’r ail oriel yn mynd â’r ymwelydd ar daith gronolegol o amgylch darganfyddiadau archeolegol lleol o’r cyfnod cynhanesyddol, yr Hen Rufeiniaid i’r cyfnod Canoloesol cynnar. Mae’r arddangosfeydd yn cynnwys darganfyddiadau archeolegol gan bobl leol ac o waith cloddio a wnaed gan Ymddiriedolaeth Archeolegol Clwyd-Powys.

Mae yna raglen allgymorth lle gall yr amgueddfa roi benthyg ei gasgliad trin i ysgolion, colegau, meithrinfeydd a chartrefi gofal preswyl.

 

Trefniadau Dros Dro

Oherwydd gwaith adeiladu a gwelliannu, bydd Llyfrgell Ystradgynlais ar gau o ddydd Mercher 10 Mai. Disgwylir i oriau agor arferol ailddechrau yn y gwanwyn 2025.

The Library will also be closed on the following dates:

Dydd Llun 16 2024 Hydref – Dydd Sadwrn 21 2024 Tachwedd

During this period you can access eBooks, eAudiobooks, and eMagazines 24/7 here. You can find information about our other libraries and services here.

If you’d like to get in touch you can email us at email or call us on 01874 612394.

Ymddiheuriadau am unrhyw anghyfleustra ac edrychwn ymlaen at eich croesawu chi yn ôl ystod 2025.

Oriau Agor

dydd Llun
09:30 – 18:30
dydd Mawrth
09:30 – 17:00
dydd Mercher
09:30 – 13:00
dydd Iau
Ar gau
dydd Gwener
09:30 – 17:00
dydd Sadwrn
09:30 – 13:00
dydd Sul
Ar gau
Amgueddfa Powysland
Y Lanfa / The Wharf
The Canal Wharf
Y Trallwng
Powys
SY21 7AQ

Mynd ar Daith Rithwir

Teithiau 360° yn syth o’ch cyfrifiadur. Gweld ein amgueddfeydd, llyfrgelloedd, archifau a golygfeydd o Bowys o’ch cartref eich hun!

Cliciwch ar y ddelwedd i gychwyn arni.

 

Chwilio Casgliadau Amgueddfeydd a Threftadaeth

Archwiliwch ein casgliadau unigryw a dysgu mwy am y dreftadaeth ddiwylliannol gyfoethog sy’n cael ei harddangos ar draws amgueddfeydd ym Mhowys