Benthyca iPad

Benthyca iPad o Lyfrgelloedd Powys.

 

Benthyca iPad o Lyfrgelloedd Powys.

Diolch i arian grant, mae gan Wasanaeth Llyfrgelloedd Powys 125 iPad i’w benthyca i unrhyw un sydd angen un. Nid oes angen i fenthycwyr gael eu mynediad rhyngrwyd eu hunain, gan fod pob dyfais yn dod gydai 5GB o ddata y mis, ac mae taflenni cymorth a chymorth ymarferol yn cael eu darparu, felly nid oes angen i chi fod yn arbenigwr i fenthyg un.

Mae benthyca iPad yn debyg iawn i fenthyg llyfr – bydd angen i chi gael cerdyn llyfrgell a byw ym Mhowys, a gallwch fenthyg yr iPad am bedair wythnos cyn dod ag ef yn ôl i rywun arall gael ei fenthyg.

Sut mae benthyca iPad?

Os oes gennych ddiddordeb mewn benthyca iPad, neu os oes gennych gleient yr hoffech gynnig ei enw i gael benthyg un, cysylltwch â ni drwy ebost, gan gynnwys y llyfrgell yr hoffech chi gasglu’r iPad ohoni.

O ble gallaf fenthyg iPad?

Ar hyn o bryd mae gennym iPads mewn amrywiol lyfrgelloedd ar draws Powys.

Er nad oes gan bob un o’n llyfrgelloedd stoc bwrpasol o ddyfeisiadau, byddwn bob amser yn gwneud ein gorau i sicrhau bod gan bawb fynediad at iPad, ni waeth ble ym Mhowys maent yn byw.

 

 

Ar gyfer beth y gallaf ddefnyddio’r iPad?

Yr ateb byr yw, ar gyfer beth bynnag y dymunwch! Ein nod yw galluogi mynediad a thorri drwy’r rhaniad digidol.

Felly p’un a oes angen i chi fynychu apwyntiadau ffisio ar-lein, neu os oes gennych ffansi cael hwyl ar Candy Crush, cewch wneud fel y mynnoch. Ond wrth gwrs ni chaniateir unrhyw weithgaredd anghyfreithlon.

A oes angen fy rhyngrwyd fy hun arnaf gartref?

Nac oes! Peidiwch â phoeni os nad oes gennych chi fynediad i’r rhyngrwyd – mae pob iPad yn dod gyda 5GB o ddata y mis – bydd hynny’n rhoi tua 20 awr o alwadau fideo i chi!

Ond os oes gennych chi eich mynediad rhyngrwyd eich hun, mae hynny’n wych wrth gwrs, ac mae’n golygu mwy o ddata ar gyfer pobl eraill nad oes ganddyn nhw eu mynediad eu hunain.

Alla’ i gynnig cleient i gael benthyg iPad?

Wrth gwrs gallwch chi! Dyma sut y dechreuodd ein cynllun benthyca iPads, ac rydym wrth ein bodd yn clywed newyddion da am sut mae ein dyfeisiau wedi helpu pobl oedd eu gwir angen.

Os oes gennych gleient yr ydych am ei gyfeirio am fenthyciad, cysylltwch â ni drwy ebost, gan gynnwys y llyfrgell yr hoffech chi gasglu’r iPad ohoni.

Dydw i ddim yn gyfarwydd iawn â thechnoleg – Alla’ i ddal i gael benthyg iPad?

Gallwch! Daw pob iPad gyda thaflen gymorth a diagram, felly gallwch chi ddysgu sut i ddefnyddio’r ddyfais eich hun. Mae llyfrgellwyr ar gael i’ch helpu yn y gangen os byddwch yn mynd i drafferthion, a gallwch bob amser ffonio ein Llinell Llyfrgell ar 01874 612394.

Os oes angen cymorth mwy manwl arnoch, gallwn agor eich dyfais o bell (dim ond gyda’ch caniatâd) a gweld beth rydych yn ei weld, fel y gallwn eich cynorthwyo’n well. Gallwn hefyd eich rhoi mewn cysylltiad â staff a gwirfoddolwyr ar gyfer sesiynau technoleg personol, pan fo hynny’n briodol.

Rhagor o wybodaeth

Anfonwch e-bost atom yn library@powys.gov.uk am ragor o wybodaeth am fenthyca iPad.

Chromebooks

Mae gennym hefyd Chromebooks i’w benthyca.