Llyfrgelloedd i Fabanod a Phlant Bach
Dydych chi byth yn rhy ifanc i ymuno â’r llyfrgell. Mae croeso gwirioneddol i fabanod a phlant bach mewn llyfrgelloedd, hyd yn oed os ydynt weithiau’n aflonydd ac yn swnllyd.
Mae gan bob llyfrgell adran plant sy’n fywiog ac yn groesawgar ac yn cynnwys llyfrau stori ar gyfer pob oedran a llyfrau gwybodaeth i helpu gyda gwaith cartref a diddordebau hamdden.
Mae gan bob llyfrgell adran plant sy’n fywiog ac yn groesawgar ac yn cynnwys llyfrau stori ar gyfer pob oedran a llyfrau gwybodaeth i helpu gyda gwaith cartref a diddordebau hamdden.
Does dim dirwyon os dychwelwch eich llyfrau’n hwyr!
Dydych chi byth yn rhy ifanc i ymuno â’r llyfrgell. Mae croeso gwirioneddol i fabanod a phlant bach mewn llyfrgelloedd, hyd yn oed os ydynt weithiau’n aflonydd ac yn swnllyd.
Mae gan eich llyfrgell leol amrywiaeth o lyfrau i fabanod a phlant bach gan gynnwys llyfrau bwrdd – rhai â sain a gweadau gwahanol i apelio at y synhwyrau, llyfrau lluniau, hwiangerddi a llyfrau yn Gymraeg. Peidiwch â phetruso gan ofni y bydd eich plant a’ch babanod niweidio llyfrau – ymunwch â’r llyfrgell! Mae llyfrau bwrdd yn gadarn iawn, ac rydym yn deall y bydd rhywfaint o draul arnynt!
Mae llawer yn digwydd hefyd yn ein llyfrgelloedd gyda babanod a phlant bach mewn golwg. Mae ein llyfrgelloedd yn cynnal gweithgareddau a digwyddiadau sy’n ystyriol o fabanod gydol y flwyddyn.
I gael rhagor o wybodaeth am yr hyn sy’n digwydd yn ein llyfrgelloedd, ewch draw i’n tudalen Digwyddiadau a Gweithgareddau.
Rhaglen genedlaethol yw Dechrau Da sy’n cael ei gydlynu gan Booktrust i annog teuluoedd i ymweld â’r llyfrgell a rhannu’r pleser o ddarllen ac edrych ar lyfrau gyda babanod a phlant bach. Dylech dderbyn eich Pecyn Baban Dechrau Da dwyieithog ym mlwyddyn gyntaf eich baban, a’ch Pecyn Blynyddoedd Cynnar Dechrau Da dwyieithog pan fydd eich baban tua 27 mis. Yr Ymwelydd Iechyd fydd yn rhoi’r ddau becyn i chi.
Ysbrydolwch hoffter o lyfrau a darllen gyda’ch plentyn, i roi dechrau da iddynt mewn bywyd! Os nad ydych wedi derbyn eich pecyn Dechrau Da neu’r Blynyddoedd Cynnar, gofynnwch i’ch ymwelydd iechyd neu eich llyfrgell leol. I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Dechrau Da.
Mae gennym gannoedd o lyfrau lluniau i blant bach a phlant cyn oed ysgol ddewis ohonynt, llyfrau am sefyllfaoedd bob dydd fel mynd i’r cylch chwarae neu ymweliad â’r meddyg, llyfrau gyda chaneuon, hwiangerddi, rhif, lliw, llyfrau dwy iaith; llyfrau i’w rhannu adeg gwely, unrhyw bryd!
I weld ein caneuon a rhigymau i fabanod a phlant bach, cliciwch ar y botwm isod.
Rydym am i blant fwynhau llyfrgelloedd a dysgu caru llyfrau o oedran cynnar.
Rydym yn cadw llyfrau o bob math – rhigymau a barddoniaeth, llyfrau ffeithiol ar bob pwnc y gallwch ei ddychmygu, heb anghofio llyfrau jôcs!
Os nad oes gennym yr hyn yr ydych ei eisiau yn eich cangen leol, byddwn yn gwneud ein gorau i’w gael i chi.
Mae gennym lawer yn digwydd hefyd yn y llyfrgelloedd i blant. Mae llyfrgelloedd yn cynnal clybiau, gweithgareddau a digwyddiadau gydol y flwyddyn.
Un digwyddiad arbenning iawn i blant yr ydym yn eu rhedeg bob blwyddyn yw Sialens Ddarllen yr Haf.
Mae Sialens Ddarllen yr Haf yn digwydd mewn llyfrgelloedd bob blwyddyn yn ystod gwyliau’r haf. Mae’n llawer o hwyl ac mae’n un o uchafbwyntiau’r gwyliau i filoedd o blant, ond mae hefyd yn helpu i sicrhau nad yw sgiliau darllen yn pylu dros wyliau hir yr haf. Mae plant sy’n cymryd rhan yn y Sialens yn dychwelyd i’r ysgol ym mis Medi fel darllenwyr mwy rhugl, hyderus a hapus.
Mae cymryd rhan yn hawdd ac mae’r cwbl AM DDIM. Nod yr Her yw i blant ddarllen chwech neu fwy o lyfrau llyfrgell o’u dewis yn ystod yr haf a dechrau mis Medi. Gallant ddarllen unrhyw lyfrau a hoffant – llyfrau ffeithiau, storïau, llyfrau jôc, llyfrau lluniau – llyfrau sain ac e-lyfrau hefyd! Cyn belled â’u bod yn cael eu benthyg o’r llyfrgell, maent i gyd yn cyfrif.
Mae sticeri a gwobrau eraill i’w casglu, ac mae’r cyfan AM DDIM.
I gael gwybod mwy am Sialens Ddarllen yr Haf, neu i gael rhagor o wybodaeth am yr hyn sy’n digwydd yn ein llyfrgelloedd, ewch draw i’n tudalen Digwyddiadau a Gweithgareddau.
Mae llyfrgell yn darparu’r amgylchedd perffaith ar gyfer adolygu a gwaith cartref, er na allwn warantu tawelwch llwyr! Mae staff wrth law i’ch helpu i ddod o hyd i’r holl lyfrau ac adnoddau sydd eu hangen arnoch i’ch helpu gyda phob agwedd ar eich gwaith cartref a’ch adolygu.
Os ydych yn aelod o’r llyfrgell, gallwch ddefnyddio cyfrifiaduron sydd â mynediad am ddim i’r rhyngrwyd. Mae gennym hefyd gyfleusterau argraffu a llungopïo ar gael am ffi fechan.
Dim ond gyda chaniatâd eu rhiant y gall plant dan 16 oed ddefnyddio ein cyfrifiaduron rhyngrwyd cyhoeddus.
Os hoffech i’ch plentyn ddefnyddio’r gwasanaeth hwn, bydd angen i chi lofnodi ffurflen caniatâd rhieni yn y llyfrgell. Bydd eich plentyn yn cael cerdyn Clwb Rhyngrwyd y mae’n rhaid iddo ei ddangos bob tro y bydd yn defnyddio cyfrifiadur, ynghyd â’i gerdyn llyfrgell.
Gallwch lenwi’r ffurflen yn eich llyfrgell leol.
Anogir athrawon i ddod â dosbarthiadau i’w llyfrgell leol fel y gall plant ymuno a benthyg llyfrau’n rheolaidd. Gellir trefnu ymweliadau dosbarth hefyd i ganolbwyntio ar sgiliau gwybodaeth sylfaenol sy’n galluogi’r plant i ddod o hyd i’w ffordd o amgylch y llyfrgell a chael gafael ar wybodaeth yn rhwydd.
Cysylltwch â’ch llyfrgell leol i drefnu ymweliad.
Mae gan holl aelodau staff addysgu ysgolion cynradd ac arbennig yr hawl hefyd i gael cerdyn llyfrgell ysgol, a fydd yn eu galluogi i fenthyg hyd at 20 o lyfrau iau am dymor cyfan. Mae’r cardiau wedi’u cofrestru i gyfeiriad yr ysgol, ac mae’r ysgol yn gyfrifol am y llyfrau.
I gael rhagor o wybodaeth, siaradwch â’ch pennaeth neu cysylltwch â’ch llyfrgell leol.
Mae gan Wasanaeth Llyfrgell Powys ystod eang o lyfrau sy’n addas ar gyfer plant cyn oed ysgol ac mae’n mynd ati i annog cylchoedd chwarae i fenthyg llyfrau gyda cherdyn llyfrgell cylch chwarae. Mae’r cerdyn hwn yn caniatáu i gylchoedd chwarae fenthyg hyd at 30 o lyfrau am 90 diwrnod.
Cysylltwch â’ch llyfrgell leol am fwy o fanylion.