Printio diwifren o’ch dyfais.
Ewch Ar-lein
Ymwelwch â’n llyfrgelloedd i gael mynediad at gyfrifiadur a Wi-Fi am ddim.
Mae pob llyfrgell cangen ym Mhowys yn cynnig mynediad am ddim i gyfrifiadur a Wi-Fi.
Cyfrifiaduron y Llyfrgell
Mae cyfrifiaduron ym mhob un o’n llyfrgelloedd cangen. Er mwyn gallu cadw pellter cymdeithasol, rhaid archebu sesiynau o flaen llaw.
Bydd sesiynau cyfrifiadur yn gorffen 15 munud cyn amser cau’r llyfrgell.
Gallwch ddefnyddio ein cyfrifiaduron am ddim. Pris argraffu yw 20c y dudalen am ddu a gwyn a 40c y dudalen am liw.
Rhaid i blant dan 16 fod yn aelodau o Glwb y We. Rhaid i chi fod yn aelod o’r llyfrgell i ymuno â Chlwb y We a rhaid i’ch rhiant/gwarcheidwad arwyddo ffurflen gais Clwb y We o flaen aelod staff.
Mae ein cyfrifiaduron yn cynnwys OpenOffice Prosesydd Geiriau a Thaenlen.
Os oes gennych gyfrif Outlook neu Hotmail, gallwch ddefnyddio Word ac Excel am ddim – mwy o wybodaeth yma.
Os oes gennych gyfrif Gmail, gallwch ddefnyddio Google Docs a Google Sheets am ddim – mwy o wybodaeth yma.
Wi-Fi Am ddim
I gyrraedd WiFi am ddim bydd angen cyfrif defnyddiwr am ddim arnoch. Os gallwch dderbyn neges destun, gallwch greu cyfrif Wi-Fi i chi eich hun.
Os na allwch dderbyn neges destun, gallwn greu cyfrif ar eich cyfer – gofynnwch i’r staff wrth y cownter.
I greu cyfrif eich hun:
- Yn unrhyw un o Lyfrgelloedd Powys, select the ‘powysGuest’ Wifi signal.
- lansio porwr y we. Dylai fynd i dudalen ‘Login/Create an account’ Cyngor Sir Powys.
- Os na, teipiwch neverssl.com i’r porwr – bydd hyn yn eich cyfeirio chi i dudalen logio mewn Powys.
- Cliciwch ar y ddolen ar waelod y dudalen i greu cyfrif newydd (“Os nad oes gennych, cliciwch yma / If you do not have an account, click here”)
- Llenwch y ffurflen fer gan gynnwys rhif ffôn symudol, a’i arbed. Byddwch yn derbyn neges destun gyda’ch enw defnyddiwr a chyfrinair.
- Ewch nôl i’r dudalen gofrestru a logio mewn.
- Bydd eich mewngofnodi yn cael ei gofio am 30 diwrnod, ar ôl hynny gofynnir i chi fewngofnodi eto yn unrhyw un o Lyfrgelloedd Powys, dewiswch y signal Wifi ‘powysGuest’.