Cofnodion Cwnstabliaeth
Sefydlwyd Cwnstabliaethau Sirol cyflogedig am y tro cyntaf gan Ddeddf Heddlu Sirol Peel ym 1839, a chan yr Ynadon Heddwch.
Ffurfiwyd Cwnstabliaeth Maldwyn ym 1840. Nid oedd gan Frycheiniog a Maesyfed heddlu tan 1856-7, yn dilyn Deddf Heddlu Sirol a Bwrdeistrefol 1856, pan ofynnwyd i’r ynadon sefydlu heddluoedd lle nad oedd rhai o’r blaen.
Sirol
Brycheiniog (Cyf: B_CON) [15KB]
Powys
Heddlu Dyfed Powys (Cyf: P/CON/2) [9KB]
Gwelwch hefyd Sir Drefaldwyn: Journals of Thomas Jones, constable 1843-8 (M/SOC/7/42-44); gohebiaeth a phapurau cysylltiedig yn ymwneud â’r Heddlu Sirol 1890-1931, amrywiol ffeiliau 1920-38 (MC/CSJ).
Gwelwch hefyd Sir Faesyfed: adroddiad a chyfrifon y Prif Gwnstabl 1889 (R/D/JGW/25).
Gellir darganfod cofnodion cynnar y Gwnstabliaeth ym Mrycheiniog, Maldwyn a Maesyfed yng nghofnodion y Sesiynau Chwarter.