Mae’r Llysoedd Sirol yn dyddio nôl i oes y Sacsoniaid ond fe’u sefydlwyd yn eu ffurf bresennol gan Ddeddf Llysoedd Sirol 1846. Maen nhw’n delio’n bennaf ag achosion o fân ddyledion a methdaliadau.
Cofnodion Cyhoeddus
Sirol a Siryfiaeth
Darllen mwy
Ysbytai ac Awdurdodau Iechyd
Wedi i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol gael ei greu yn 1948, trosglwyddwyd y weinyddiaeth i fyrddau ysbytai rhanbarthol a phwyllgorau rheoli ysbytai. Yn 1974, daeth awdurdodau iechyd ardal i gymryd eu lle; ac awdurdodau iechyd dosbarth yn 1982.
Darllen mwy
Treth y Wlad: Gwerthusiad Rhanbarthol
Yn dilyn Deddf Cyllid (1909-1910) 1910, crewyd cofrestrau dyletswyddau ar werthoedd tir, gan greu cofnod cyflawn o berchnogaeth tir a gwerth eiddo yn y cyfnod oddeutu 1910-12.
Darllen mwy
Cyllid y Wlad: Asesiadau Treth Tir
Crëwyd Bwrdd Cyllid y Wlad ym 1849 o dan Ddeddf Bwrdd Cyllid y Wlad 1849. Daeth yn adran y llywodraeth a oedd yn gyfrifol and weinyddu trethi uniongyrchol.
Darllen mwy
Arolygiaeth Mwyngloddiau a Chwareli
Mae’r Arolygiaeth Mwynfeydd a Chwareli, sef yr Arolygiaeth Mwynfeydd bellach, yn rhan o’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ac mae’n gyfrifol am wirio’r gwaith o adeiladu a diogelu mwyngloddiau.
Darllen mwy
Bwrdd Glo Cenedlaethol
Y Gorfforaeth statudol a grëwyd i redeg y diwydiant glo cenedlaethol yn y Deyrnas Unedig oedd y Bwrdd Glo Gwladol (NCB). Sefydlwyd ef o dan Ddeddf Gwladoli’r Diwydiant Glo 1946, a daeth yn gyfrifol am lofeydd y Deyrnas Unedig ar “y diwrnod breinio”.
Darllen mwy
Sesiynau Bach
Cynhaliwyd y Sesiynau Bach yn gyntaf yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Llysoedd llai oedd y rhain gydag ustusiaid neu ynadon. Mae’r cofnodion yn cynnwys llyfrau cofnodion, cofrestrau’r llys, cofrestrau mabwysiadu, trwyddedau a chyfriflyfrau.
Darllen mwy
Sesiynau Chwarter
Llys y sesiwn chwarter oedd cyfarfod ynadon heddwch y sir; daeth ei enw o’r ffaith ei fod yn cyfarfod bedair gwaith y flwyddyn, adeg yr Ystwyll, y Pasg, Gwyl Ifan a Gwyl Fihangel.
Darllen mwy
Cofnodion y Crwner
Mae swyddfa’r crwner yn dyddio o ganol yr oesoedd canol, ond ychydig o gofnodion cynnar sydd wedi goroesi. Ar ôl 1888, roedd y crwner yn cael ei benodi gan y Cyngor Sir.
Darllen mwy