Sesiynau Chwarter

Llys y sesiwn chwarter oedd cyfarfod ynadon heddwch y sir; daeth ei enw o’r ffaith ei fod yn cyfarfod bedair gwaith y flwyddyn, adeg yr Ystwyll, y Pasg, Gwyl Ifan a Gwyl Fihangel.

Crewyd siroedd newydd Brycheiniog, Trefaldwyn a Maesyfed gan Ddeddf Uno 1536 (27 Harri VIII, c.26), a chafodd llysoedd y sesiwn chwarter a swyddfa’r ynad heddwch eu cyflwyno ynddynt gan yr ail Ddeddf yn 1543 (34 a 35 Harri VIII, c.26).

Mae cofnodion Powys yn dechrau’n ddiweddarach nac 1543: mae gan Sir Frycheiniog restrau’r sesiynau o 1690, Sir Drefaldwyn o 1719 a Sir Faesyfed o 1753. Erbyn hynny, roedd yr ynadon yn ymddwyn yn fwy gweithredol. Roedden nhw’n ymwneud â:

  • penderfynu achosion barnwrol (er nid ffeloniaethau a fyddai’n cael eu trin gan frawdlysoedd);
  • gweinyddu llywodraeth leol; a’r
  • gwaith statudol o gofrestru dogfennau nad oeddynt yn ymwneud yn uniongyrchol â’r llys.

Cafwyd newid yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg, wrth i bwyllgorau sefydlog esblygu i drin â swyddogaethau penodol, e.e. carchardai a phontydd. Penodwyd swyddogion gweinyddol, e.e. Trysorydd y Sir, Syrfewr neu Bennaeth Pontydd, Arolygwyr Pwysau a Mesurau.

Cafodd llawer o swyddogaethau gweinyddol eu trosglwyddo i gyrff eraill, e.e. Deddf y Tlodion yn 1834, a gweinyddiaeth priffyrdd yn 1835. Golygodd sefydlu cynghorau sir o dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1888 mai dim ond swyddogaethau barnwrol oedd gan y sesiynau chwarter. O dan Ddeddf Llysoedd 1971, cymerwyd lle’r sesiynau chwarter gan lysoedd y goron, wedi’u gweinyddu gan y llywodraeth ganolog.

Gellir gweld cofnodion y Cynulliadau Milisia, y Cymdeithasau Cyfeillgar a Chiperiaid yng nghofnodion y Sesiynau Chwarter.

Sesiynau Chwarter Sir Frycheiniog (Cyf: B/QS) [980KB]

Sesiynau Chwarter Sir Drefaldwyn (Cyf: M/QS) [183KB]

Sesiynau Chwarter Sir Faesyfed (Cyf: R/QS) [193KB]

Gweler hefyd Cofnodion wedi’u Digido a’u Trawsgrifio.

Edrychwch hefyd ar Sir Frycheiniog: Casgliad Trosglwyddo Amgueddfa Brycheiniog am bapurau cyffredinol y Sesiynau Chwarter (B/D/BM/S) a phapurau amgaeedig (B/D/BM/E)