Cofnodion Trethi

Trethi ar feddianwyr tir ac adeiladau yw trethi cyffredinol.

Roedd sawl Deddf yn y 16eg ganrif yn darparu cronfeydd i leddfu cyflwr y gwael a’r tlawd, ond yn Lloegr, roedd y “trethi” yn dyddio yn ôl i Ddeddf Cymorth i Dlodion 1601 pan ddaeth y plwyf yn uned weinyddol ar gyfer gosod y trethi.

Esgorodd Deddf Trethu a Phrisio (1925) ar drethi cyffredinol, a daeth bwrdeistrefi, bwrdeistrefi sirol ac ati yn awdurdodau ac yn unedau trethu.

Roedd y trethi’n amhoblogaidd oherwydd eu bod yn gam yn ôl a dim ond rhan o’r etholaeth leol fyddai’n eu talu. Dilëwyd trethi domestig, ond nid trethi busnes yn 1989-93, yn yr Alban, ac yn 1990-3, yng Nghymru a Lloegr, a daeth y tâl cymunedol neu dreth y pen i fod.

Mae prif gyfres y cofnodion trethi i’w gweld yn y cofnodion canlynol: Cynghorau Dosbarth Trefol a Gwledig, Bwrdeistrefi, Cynghorau Dosbarth