Ffynonellau Hanes Tai
Mae’n bwysig pwysleisio o’r cychwyn nad tasg hawdd yw olrhain hanes ty.
Mae’n bosibl na chewch atebion syml i’ch cwestiynau chi. Fel arfer, gallwn eich cyfeirio chi at ffynonellau tebygol ac ar adegau, gallwn ddweud a oes yna, er enghraifft, hanes defnyddiol ar brint (llyfrgelloedd), gweithredoedd a chynlluniau (archifau) neu luniau (amgueddfeydd), ond darlun anghyflawn y cewch yn bur aml. Ambell waith, gallwch wybod tipyn am bwy fu’n byw yn eich ty trwy ddefnyddio dulliau hanesydd teulu. I wneud hyn, cysylltwch â Ffynonellau Hanes Teulu.
Lle i Ddechrau
Dechreuwch gyda’r ty – edrychwch arno’n ofalus, ei gynllun a nodweddion pensaernïol, a thynnwch luniau a gwneud cynllun. Gwnewch nodyn o’i ddefnyddiau (yn aml iawn, cyrhaeddodd briciau masgynnyrch megis Briciau Rhiwabon, gyda’r rheilffyrdd), maint a siâp y ffenestri ac ati, a hefyd unrhyw gerrig neu arysgrifau â dyddiad. Gall hyn helpu i ganfod sut y mae’r ty wedi newid siâp. Darllenwch y gweithredoedd. Mae’n bosibl bod y rhain gyda’ch cyfreithiwr neu gymdeithas adeiladu. Os yw’n hen dy, gall y gweithredoedd ddweud llawer am gyn-berchnogion neu breswylwyr, a hefyd unrhyw newidiadau pwysig i’r ty neu’r plot. Holwch unrhyw gymdogion hyn beth maen nhw’n ei wybod am y ty a gwneud nodyn o unrhyw enwau eraill ar y ty a’r hen blwyf lle mae’r ty.
Cofrestrau Prisiadau Tir
Os oedd eich tŷ yn bodoli yn 1910, yna fe ddylai fod wedi’i gofnodi yn Llyfrau Dydd y Farn (Doomsday Books) a luniwyd dan Ddeddf Cyllid 1910 (o fewn Swyddfa Archifau’r Sir). Bydd y rhain yn dweud wrthych beth yw enwau’r perchennog a’r preswyliwr, yr erwau gyda’ch plot-ty (etifeddiant) (os yn berthnasol) a’r manylion a ddefnyddir wrth asesu treth. Mae’r rhif etifeddiant yn cyfateb i’r mapiau graddfa Arolwg Ordnans 25″ sydd wedi’u nodi yn Swyddfa Archifau’r Sir, ond mae’r gyfres o fapiau yn anghyflawn. Mae’r holl fapiau ar gyfer Sir Frycheiniog yn ymddangos fel eu bod wedi’u colli, ac mae bylchau yn y gyfres ar gyfer Sir Drefaldwyn a Sir Faesyfed. Mae rhai o’r bylchau yn Sir Faesyfed wedi’u llenwi, fodd bynnag, gan gyfres o fapiau Arolwg Ordnans graddfa 6″ yn Swyddfa Archifau’r Sir. Caiff y gyfres lawn o fapiau 25″ a’r gyfres feistr o lyfrau’r Ddeddf Cyllid eu cadw yn y Swyddfa Cofnodion Cyhoeddus, Kew.
Mapiau
Efallai eich bod yn dymuno gwirio unrhyw rifynnau hynnach o fapiau yn Swyddfa Archifau’r Sir. Mae Swyddfa Archifau’r Sir yn cadw’r gyfres lawn o ddarluniau gwaith 2″ yr Arolwg Ordnans (OS) ar gyfer Powys tua 1817 – 1830, taflenni 1″ yr OS a mwyafrif y taflenni 6″ a 25″ OS.
Mapiau Degwm: Mae map degwm a dosraniad a luniwyd dan Ddeddf Cymudo’r Degwm 1936 gan bron pob plwyf ym Mhowys. (Gweler ein hadran ar fapiau am ragor o wybodaeth) Mae copïau yn Swyddfa Archifau’r Sir o’r mapiau degwm a ganfuwyd mewn cofnodion esgobaethol, a dderbyniwyd gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru. Gellir edrych ar restr o’r rheini sydd yn y Swyddfa Cofnodion Cyhoeddus yn Swyddfa Archifau’r Sir. O ran nifer o blwyfi ar y ffin yn esgobaeth Swydd Henffordd, mae’r mapiau degwm gwreiddiol yn preswylio yn Swyddfa Cofnodion Swydd Henffordd. Peidiwch â disgwyl gormod o’r mapiau degwm a’r dosraniadau. Mae mwy o ddefnydd iddynt, fwy na thebyg, mewn ardaloedd gwledig yn hytrach na threfi, ac mae eiddo nad oedd yn talu’r degwm heb gael eu cynnwys. Weithiau nid yw map degwm yn bodoli, oherwydd bod y degwm eisoes wedi’i gymudo i daliadau ariannol penodedig cyn Deddf 1836. Ar y gorau, gall y mapiau degwm ddweud wrthych chi beth yw enwau’r perchnogion a’r preswylwyr, enw’r eiddo (os oes enw), faint o ddegwm sy’n daladwy, yr erwau a’r defnydd a wneir o’r tir weithiau (tir âr, pori, dolydd) ac enwau caeau. Dylech gadw mewn cof hefyd fod sillafiadau yn anghyson weithiau hefyd ac y gellir camsillafu enwau Cymraeg a Saesneg.
Cofrestrau Etholwyr
Mae’r rhain yn goroesi ar gyfer y tair hen sir i gyd sef Sir Frycheiniog, Sir Drefaldwyn a Sir Faesyfed. Mae crynodeb o’r casgliadau hyn yn Swyddfa Archifau’r Sir o fewn Canllaw Gibson. Yn anffodus, mae bylchau mawr yng nghyfres Sir Drefaldwyn.
Defnyddiwch y mapiau a’r cofrestrau etholwyr ar y cyd â chyfeirlyfrau masnach a lleol sydd wedi’u hargraffu (megis Cyfeirlyfr Kelly) a llyfrau canllaw, ac efallai y gallwch lunio rhestr o berchnogion a/neu breswylwyr ar gyfer eich cartref. Os bydd manylion arwerthu yn goroesi (yn eich Llyfrgell, Amgueddfa a Swyddfa Archifau’r Sir), gallant ychwanegu’n helaeth at eich gwybodaeth.
Ffigyrau Cyfrifiad
Nid yw defnyddio’r ffigyrau yn fater hawdd bob tro oherwydd nad yw’r rhanbarthau rhifo yn cyfateb yn daclus bob tro gyda ffiniau modern awdurdodau lleol. Gall fod yn anodd iawn i ddynodi adeiladau unigol o’r rhestr o breswylwyr, yn enwedig mewn trefi.
Cofnodion Plwyfi
Mae cofrestrau plwyfi ar ficroffilm yn Swyddfa Archifau’r Sir ar gyfer bron y cyfan o Bowys, gan gynnwys nifer o blwyfi ar y ffin. Gall cofnodion asesiadau trethi ddweud wrthych enwau preswylwyr mewn eiddo penodol a dynodi’r swm a aseswyd o ran trethi penodol megis y dreth priffyrdd a threth y tlodion.
Gweithredoedd a Chofnodion Ystadau
Gall gweithredoedd brofi i fod yn anodd iawn i ddechreuwyr hyd oed pan fo eu cynnwys wedi’i grynhoi o fewn catalogau’r Swyddfa Archifau. Dylech fod yn barod i dreulio amser yn dysgu’r baleograffeg ac ychydig am drawsgludo wrth archwilio pob dogfen yn ofalus.
Bydd ffynonellau gwybodaeth eraill o ddefnydd yn cynnwys rhestrau rhentu (rhestrau o denantiaid ar stad gyda manylion rhent sy’n ddyledus), arolygon (weithiau gyda mapiau), crynodebau o’r teitl (rhestrau o weithredoedd sy’n ymwneud ag eiddo penodol) ac ewyllysiau (a ddefnyddiwyd yn aml i brofi teitl pan nad oedd gweithredoedd eraill megis prydlesi, morgeisi, a bargeinion ac arwerthiannau yn bodoli).
Cofnodion Profi
Pan fo rhestr gynnwys gan y rhain, gallant brofi i fod yn ddefnyddiol iawn wrth ddynodi ystafelloedd unigol mewn ty penodol.