eLyfrau, eLyfrau Llafar ac eWasg
Gall aelodau o lyfrgelloedd Powys fenthyg eLyfrau, eLyfrau Llafar ac eWasg (papurau newydd) yn rhad ac am ddim trwy BorrowBox
Gall aelodau o lyfrgelloedd Powys fenthyg eLyfrau, eLyfrau Llafar ac eWasg (papurau newydd) yn rhad ac am ddim trwy BorrowBox.
Mae miloedd o eLyfrau ac eLyfrau Llafar ar gael i oedolion, plant a phobl ifanc, a’r cyfan o un wefan.
Hefyd gallwch fenthyg papurau newydd dyddiol ac wythnosol ar-lein.
Trwy lawrlwytho o’ch storfa Apple, Google neu Amazon i arsefydlu ap symudol Borrowbox gallwch chwilio am eLyfrau Llafar ac eLyfrau’n rhwydd a’u lawrlwytho drwy’r un ap
Fel arall, lawrlwythwch eLyfrau ar gyfrifiadur a’u trosglwyddo i eDdarllenydd cydnaws; a throsglwyddwch eLyfrau Llafar i gyfrifiadur i wrando neu i’w trosglwyddo i chwaraeydd MP3
Gellir darllen papurau newydd eWasg yn yr ap neu drwy borwr
Ewch yn syth i wefan BorrowBox
Bydd angen i chi fod yn aelod o Lyfrgelloedd Powys a bydd angen eich PIN llyfrgell arnoch i fewngofnodi.
Ddim yn aelod eto? Ymunwch nawr
Ddim yn gwybod eich PIN? Cael help i logio mewn yma
Heb ddefnyddio’r gwasanaeth o’r blaen?
Choose from one of the set-up guides below. If you need any further help please email us or phone the Library Line on 01874 612394.
Cyflwyniad i Borrowbox ar gyfer ffonau clyfar a llechi Apple ac Android
Cyflwyniad i Borrowbox ar gyfer Cyfrifiaduron a Gliniaduron (gan gynnwys llechi Windows)