Canlyniadau’r Cyfrifiad 1841 – 1911
Gwnaed cyfrifiad o boblogaeth Cymru a Lloegr bob deg mlynedd ers 1801 (heblaw am 1941).
O 1801 i 1831, cofnodwyd nifer y bobl ym mhob plwyf, ond ni chofnodwyd eu henwau nag unrhyw fanylion personol; hefyd, nodwyd tai yr oedd rhywun yn byw ynddynt a thai gwag, a rhoddwyd galwedigaethau pobl yn fras. Lluniwyd y data hwn gan Arolygwyr y Tlawd lleol a chlerigwyr.
O 1841, lluniwyd y wybodaeth gan rifwyr y cyfrifiad, ac roedd pob un o’r rhain yn gyfrifol am ranbarth (yng nghefn gwlad, diffiniwyd rhanbarth fel ardal lle na fyddai rhaid i rifwr gerdded mwy na 15 milltir, ac mewn trefi, diffiniwyd rhanbarth fel tua 200 o dai). Roedd pob penteulu yn llenwi ei ffurflen ei hun, ac felly roedd camgymeriadau’n gyffredin. Cafodd y ffurflenni hyn eu copio i mewn i lyfrau gan y rhifwyr, a’u hanfon i Swyddfa’r Cyfrifiad yn Llundain: y rhain yw “canlyniadau’r cyfrifiad”, ac roedd rhaid eu llenwi yn Saesneg. Erbyn hyn, caiff y copiau gwreiddiol eu cadw yn y Swyddfa Cofnodion Cyhoeddus, ond maent wedi cael eu rhoi ar ficroffilm ac maent ar gael yn lleol.
Gwnaed cyfrifiad 1841 ar noson y 6/7 Mehefin. Am y tro cyntaf, cofnodwyd enw unigolion, eu hoed (i’r 5 agosaf ar gyfer pawb dros 15 oed) a’u galwedigaeth. Gofynnwyd i drigolion nodi a oeddent wedi’u geni yn y sir yr oeddent yn byw ynddi ar y pryd.
Gwnaed cyfrifiad 1851 ar noson y 30/31 Mawrth. O hyn ymlaen, cofnodwyd yr union oed, statws priodasol a pherthynas unigolion â’r penteulu. Mae mannau geni yng Nghymru a Lloegr wedi’u nodi’n fanwl.
The 1861 census took place for the night of 7/8 April; the 1871 census for the night of 2/3 April; the 1881 census for the night of 3/4 April; and the 1891 census for the night of 5/6 April. Each of these contains basically the same information as the 1851 census described above.
Yn 1891 ychwanegwyd rhagor o wybodaeth ynglyn â nifer yr ystafelloedd a ddefnyddiwyd, os ychwanegwyd llai na phump, yn ogystal â chwestiwn ar y gallu i siarad Cymraeg.
Roedd cwestiynau cyfrifiad 1901 mwy neu lai yr un fath â chwestiynau 1891.
Roedd cyfrifiad 1911 yn gyfrifiad aelwydydd a wnaed ar nos Sul 2 Ebrill. Cyfrifiad 1911 oedd y cyntaf lle cadwyd rhestr deiliad y cartref fel y prif gofnod, yn hytrach na nodiadau’r cyfrifydd, felly bydd modd i chi weld llawysgrifen eich cyndadau yn y rhan fwyaf o achosion wrth edrych ar ganlyniadau cyfrifiad 1911.
Mae Archifau Powys a holl lyfrgelloedd Powys yn cynnig mynediad am ddim i wefannau Findmypast ac Ancestry lle gallwch chwilio trwy gofnodion cyfrifiadau 1841-1911.