Cofrestr Etholwyr, Rhestrau Rhydd-ddeiliaid a Rheithwyr

Yn Neddf Uno 1536 dyfarnwyd y byddai dau aelod seneddol yn cael eu dewis ar gyfer bob un o’r siroedd newydd: “one Knight shall be chosen and elected …for every of the shires of Brecknock, Radnor [and] Montgomery …and for every borough being a Shire-town”.

Parhaodd hyn hyd diwygio’r ddeddf ym 1885, pan gwtogwyd nifer yr AS ar gyfer pob sir i un. Yna, ym 1918 cyfunwyd etholaethau Brycheiniog a Maesyfed i ffurfio etholaeth Brycheiniog a Maesyfed, gydag un AS yn unig yn cael ei ethol ar gyfer yr etholaeth honno.

Mae’r ddolen isod yn cysylltu â dogfen pdf sy’n cynnwys rhestr o’r cofrestrau etholiadol sydd gennym.

Cofrestrau Etholiadol [109KB]

Ym Maesyfed, tref Maesyfed ei hun oedd prif ganolfan gwaith etholiadau’r bwrdeistrefi, sef yn wreiddiol, Maesyfed, Tref-y-Clawdd, Cnwclas, Cefnllys a Rhaeadr Gwy. Ni chafodd Llanandras ei ychwanegu at y rhestr bwrdeistrefi hyd 1832m a dyma ganolfan etholiadau’r sir nes i Sir Faesyfed golli sedd ar wahân ym 1918.

Ni chafodd gweithwyr amaethyddol bleidlais hyd 1884, pan gawsant eu rhyddfreinio. Roedd tenantiaid fferm wedi cael pleidleisio ers 1832, ond nid oeddent yn gymwys i bleidleisio mewn etholiadau i’r bwrdeistrefi oni bai eu bod hefyd yn fwrdeiswyr. I ddod yn fwrdeisiwr, roedd yn rhaid i ddyn gael ei ethol gan reithgor o rai oedd eisoes yn fwrdeiswyr, dan y beili neu ddirprwy stiward y faenor. Doedd dim ots a fyddai bwrdeisiwr yn byw yn y fwrdeistref a’i etholodd ai peidio, oni bai yn achos bwrdeistref Maesyfed, lle roedd gofyn i’r bwrdeisiwr fod yn byw yno pan gafodd ei ethol. 529 oedd nifer yr etholwyr cofrestredig ar gyfer bwrdeistrefi Maesyfed ym 1832; 500 ym 1841; 978 ym 1874 a 886 ym 1884.

Mae’n bosibl y byddai rhyddfreiniaid yn pleidleisio dros yr AS i gynrychioli’r sir, ac roedd pris uchel ar y fraint o fod yn berchennog rhydd-ddeiliaid at ddiben gwneud hynny (roedd hysbysiad yn yr Hereford Journal yn 1849 yn dweud: “A vote for the County of Radnor and a freehold property may be had for a sovereign”). Roedd gallu dod yn fwrdeisiwr yr un mor werthfawr, ac mae tystiolaeth hefyd fod rhywrai yn cyrraedd y nod trwy ddulliau tebyg i lwgrwobrwyo. Mae Llyfrau Rhydd-ddeiliaid yn cofnodi rhestrau o rydd-ddeiliaid oedd yn gymwys i bleidleisio. Yn yr un modd, ni chai pawb wasanaethu ar reithgor, a chedwir Llyfrau Rheithwyr o 1696 ymlaen i gofnodi pob dyn rhwng 21-70 oedd â rhydd-ddaliadaeth, daliadaeth gopihowld neu eiddo ar brydles gwerth mwy na £10 y flwyddyn. Roedd y Rhestrau Rheithwyr (neu “Restrau Rhydd-ddeiliaid”) yn cynnwys y data crai a gasglwyd gan swyddogion plwyfi i’w cofnodi yn y Llyfrau Rheithwyr.

Mae’r Llyfrau Pleidlais yn dyddio o 1696, pan ddaeth yn ofynnol i swyddogion canlyniadau ddarparu manylion pleidleisiwyr etholiadau a sut y gwnaethant bleidleisio ar gais unrhyw aelod o’r cyhoedd. Byddent yn derbyn ffi am wneud hyn. Daeth yr arfer yma i rym yn dilyn cwynion bod rhai swyddogion canlyniadau yn ffafrio plaid benodol wrthi gyflawni’u dyletswyddau, ac mewn rhai etholaethau, byddai’r canlyniadau’n cael eu cyhoeddi’n fasnachol. Parhaodd hyn tan ar ôl Etholiad Cyffredinol 1868. Ni chafodd pleidleisio cudd ei gyflwyno tan 1872. (Mae casgliadau da o Lyfrau Pleidlais i’w gweld yn Llyfrgell y Guildhall, Y Llyfregell Brydeinig, yr Institute of Historical Research, Senate House, Prifysgol Llundain, ac yn Llyfrgell Bodleian yn Rhydychen.)

Dechreuwyd cadw Cofrestri Etholiadol yn sgil Deddf Diwygio 1832. Yr adeg honno, roedd angen bod â chymwyster eiddo er mwyn gallu pleidleisio. Roedd y cofrestri cynharaf yn cynnwys manylion enwau a chyfeiriadau’r etholwr a’r eiddo oedd yn golygu ei fod yn gymwys i bleidleisio. (Rhaid cofio er bod merched 30 oed a hyn wedi gallu pleidleisio o 1918 ymlaen, na chafodd merched yr un hawliau pleidleisio â dynion tan Fesur Etholfraint Gyfartal 1928.)